Gwasanaethau i Fusnesau
Gall cwmnïau fanteisio ar y gronfa fawr o arbenigedd sydd gan Brifysgol Aberystwyth trwy drefnu bod gwaith ymgynghorol yn cael ei gyflawni gan arbenigwr priodol. Gall yr arbenigw(y)r a ddewisir ymchwilio i broblemau penodol a chynnig barn a chyngor arbenigol.
Fel rhan o wasanaeth cynhwysfawr, gall y tîm GMY eich helpu i benderfynu pa arbenigedd academaidd yr ydych ei angen, hwluso’r ymgynghoriad a sicrhau bod cyfrinachedd ac eiddo deallusol yn cael eu hamddiffyn. Cyflawnir ein holl waith ymgynghorol i’r safonau proffesiynol uchaf.
Ein Hystod o Wasanaethau a Chanolfannau/Hybiau Cyfnewid Gwybodaeth
Hwb Cyfnewid Gwybodaeth a Menter
Canolfan Sbectrwm Genedlaethol (yn y cam cynnig)
Canolfan a Labordai Milfeddygol
Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd (yn y cam cynnig)